Psalms 20

Bydd Duw yn achub y brenin

I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.

1Boed i'r Arglwydd dy ateb pan wyt mewn trafferthion;
boed i Dduw Jacob dy gadw di'n saff.
2Boed iddo anfon help o'r cysegr,
a rhoi nerth i ti o Seion.
3Boed iddo gofio dy holl offrymau,
a derbyn dy offrymau sydd i'w llosgi.

 Saib
4Boed iddo roi i ti beth wyt ti eisiau,
a dod â dy gynlluniau di i gyd yn wir.
5Wedyn byddwn yn bloeddio'n llawen am dy fod wedi ennill y frwydr!
Byddwn yn codi baner i enw ein Duw.
Boed i'r Arglwydd roi i ti bopeth wyt ti'n gofyn amdano!
6Dw i'n gwybod y bydd yr Arglwydd
yn achub ei eneiniog, y brenin.
Bydd yn ei ateb o'r cysegr yn y nefoedd
ac yn rhoi buddugoliaeth ryfeddol iddo, trwy ei nerth.
7Mae rhai yn brolio yn eu cerbydau rhyfel a'u meirch,
ond dŷn ni'n brolio'r Arglwydd ein Duw.
8Byddan nhw'n syrthio ar lawr,
ond byddwn ni'n sefyll yn gadarn.
9Bydd yr Arglwydd yn achub y brenin.
Bydd yn ateb pan fyddwn ni'n galw arno.
Copyright information for CYM